Volodymyr Zelenskyy

Gwladweinydd o'r Wcráin yw Volodymyr Oleksandrovych Zelenskyy (Wcreineg: Володимир Олександрович Зеленський, [woloˈdɪmɪr olekˈsɑndrowɪdʒ zeˈlɛnʲsʲkɪj]; trawslythrennu: Folodymir Selensci; ganwyd 25 Ionawr 1978). Roedd e'n actor a digrifwr cyn dod yn arlywydd yr Wcráin yn 2019. Enillodd gydnabyddiaeth fyd-eang fel arweinydd yr Wcráin yn ystod y rhyfel yn ystod goresgyniad Rwsia ar y wlad. Cafodd Volodymyr Oleksandrovych Zelenskyy ei eni yn Kryvyi Rih, i rieni Iddewig. Mae ei dad, Oleksandr Zelenskyy, yn athro ac yn bennaeth yr Adran Seiberneteg a Chaledwedd Cyfrifiadura ym Mhrifysgol Economeg a Thechnoleg Talaith Kryvyi Rih; roedd ei fam, Rymma Zelenska, yn arfer gweithio fel peiriannydd. Enillodd radd yn y gyfraith gan Sefydliad Economeg Kryvyi Rih, oedd yn adran o Brifysgol Economaidd Genedlaethol Kyiv ar y pryd, ac sydd bellach yn rhan o Brifysgol Genedlaethol Kryvyi Rih. Rwsieg yw ei iaith gyntaf, ond mae hefyd yn siarad Wcreineg. Priododd Zelenskyy Olena Kiyashko ym mis Medi 2003. Ganed merch gyntaf y cwpl, Oleksandra, ym mis Gorffennaf 2004. Ganed eu mab, Kyrylo, ym mis Ionawr 2013.


© MMXXIII Rich X Search. We shall prevail. All rights reserved. Rich X Search